Croeso

Mae Parc Isaf yn faes carafanau teithiol a gwersylla bychan, wedi’i leoli o fewn fferm deuluol. Mae'r cyfleusterau o’r safon uchaf ac yn cael ei gadw yn lân ac yn daclus pob amser.

Wedi'i leoli o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, gyda golygfeydd ardderchog o Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn. Mae’r fferm wedi'i leoli'n ddelfrydol i archwilio'r tirwedd hynafol a chyfle i fynd ar ambell antur!

Mae nifer o deithiau cerdded i’w cael yn lleol, gallwch ymweld â'r llynnoedd niferus sydd wedi'u lleoli uwchben y fferm neu gallwch fynd am daith gerdded hamddenol drwy goedwig hanesyddol Gors y Gedol, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn enghraifft wych o goetir derw sydd ag ystod eang o blanhigion brodorol. Mae llwybr arfordirol Cymru hefyd gerllaw ac argymhellir i chi fanteisio ar y cyfle i deithio rhan o’r llwybr tra yn ymweld â’r ardal.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ystod eang o leoliadau o ddiddordeb hanesyddol ac archeolegol i ymweld â nhw.

Lleolir y maes carafanau a gwersylla yn Nyffryn Ardudwy sydd tua dwy filltir i ffwrdd o draethau Morfa Dyffryn. Mae Dyffryn Ardudwy bum milltir i'r gogledd o’r Bermo a phum milltir i'r de o Harlech.

Ceir cyfleusterau modern sy’n cynnwys toiledau, cawodydd am ddim, mannau eillio, sychwr gwallt (menywod yn unig) a chyfleusterau paratoi bwyd. Mae ystafell ymolchi i'r anabl / teulu hefyd ar gael.

Safleoedd


Rydym yn darparu ar gyfer carafannau teithiol, cartrefi modur a gwersylla. Mae pob safle gwersylla yn laswellt, mae gennym 12 safle aml dywydd ar gyfer carafanau teithiol / cartrefi modur ar gael. Fe'ch cynghorir i archebu safleoedd ar gyfer carafannau teithiol, cartrefi modur a gwersylla (gyda chysylltiad trydan) ymlaen rllawn.  

Archebu


Cynghorir i chi archebu safleoedd ymlaen llaw yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur, mae safleoedd gwersylla nad oes angen cysylltiad trydan ar gael ar y sail y cyntaf i'r felin. Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer ceisiadau am safleoedd penodol ond nid yw hyn bob amser yn bosibl, yn enwedig yn ystod adegau prysur.

Mae safleoedd carafanau teithiol wedi'i leoli o fewn dau gae gwahanol  gyda rhai  golygfeydd gwych o Fae Ceredigion. Mae gennym 12 safle aml dywydd ar gael, gyda'r gweddill yn safleoedd glaswellt. Argymhellir yn gryf i archebu safleoedd o flaen llaw.

Mae'r holl safleoedd gwersylla yn rhai glaswellt yn unig. Mae gennym 5 safle ar gael gyda chyswllt trydan - rydym yn argymell eich bod yn archebu ymlaen llaw. Mae pob safle arall ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.  

Tŷ Cerrig - hen dyddyn wedi'i adnewyddu'n llawn ynghanol pentref Dyffryn Ardudwy. Mae'n mae'n cysgu hyd at 6 o bobl. Mae gan yr eiddo ardd sylweddol a lle parcio digonol. MCredir mai Tŷ Cerrig yw'r tŷ dau lawr cyntaf i'w adeiladu o fewn y pentref.

IMG_4770a
IMG_1353
100_0045A
IMG_20210405_113354

Cyfleusterau


Mae gennym gyfleusterau modern, sy'n cynnwys toiledau, cawodydd am ddim, lle i olchi llestri a pharatoi bwyd. Mae hefyd ystafell i'r llai anabl / teulu. Mae peiriannau golchi a sychu dillad ar gael yn ogystal â rhewgell / oergell, ar gyfer storio pecynnau rhewi.